Mae'n rhaid i Anjali fod yn ferch amryddawn. Mae'n arbenigo mewn mesur meintiau, iechyd a diogelwch a chynaliadwyedd ac yn cynorthwyo â gwaith rheoli prosiect a chyfrifon.
Syrfëwr prosiect, Oedran 24
Mae'n rhaid i Anjali fod yn ferch amryddawn. Mae'n arbenigo mewn mesur meintiau, iechyd a diogelwch a chynaliadwyedd ac yn cynorthwyo â gwaith rheoli prosiect a chyfrifon.
"Gweithiais fy ffordd i fyny o fod yn hyfforddai i ddod yn syrfëwr prosiect"

Gwybodaeth am fywyd yn y diwydiant adeiladu
Bywyd fel syrfëwr i'w weld yn dda? Ymchwilia i'r rôl ymhellach, a darganfydda sut i ymuno â'r diwydiant.
More About Anjali
Aeth Anjali i'r brifysgol, gan deimlo bod disgwyl iddi wneud hynny. Ar ôl pythefnos o fod yn anhapus, gadawodd y brifysgol i ymuno â'r busnes teuluol a gwireddu ei breuddwyd o weithio yn y diwydiant adeiladu.
Pan oedd yn tyfu i fyny, roedd ei thad yn arfer dod â lluniadau technegol adref, a byddai'n ei helpu i fesur deunyddiau adeiladu ar safleoedd adeiladu.
Mae'n wahanol i'r stereoteip o rywun sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu! Mae'n benderfynol o herio a newid barn ac yn credu nad oes angen bod yn debyg i weithiwr arferol yn y diwydiant er mwyn parchu traddodiad a diwylliant.
Mae gweld prosiectau adeiladu'n dod yn fyw yn ei hysgogi. Mae'n hoff iawn o'r syniad y gallai adeiladau fod o gwmpas yn hirach na'r bobl a wnaeth eu hadeiladu.
Fel syrfëwr prosiect dan hyfforddiant, dim ond cymwysterau TGAU a Safon Uwch oedd yn angenrheidiol. Gwnaeth ddatblygu ei gwybodaeth yn y cwmni a dychwelyd i'r brifysgol i astudio ar gyfer gradd mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag adeiladu.

Gwybodaeth am fywyd yn y diwydiant adeiladu
Bywyd fel syrfëwr i'w weld yn dda? Ymchwilia i'r rôl ymhellach, a darganfydda sut i ymuno â'r diwydiant.
