Mae Billie-Jo'n gweithio mewn cartrefi a busnesau nad ydynt yn bell o'r ardal lle mae'n byw. Fel plastrwr, mae'n llyfnu waliau a nenfydau ac, yn ei barn hi, mae'r gwaith yn therapiwtig.
Plastrwr, Oedran 22
Mae Billie-Jo'n gweithio mewn cartrefi a busnesau nad ydynt yn bell o'r ardal lle mae'n byw. Fel plastrwr, mae'n llyfnu waliau a nenfydau ac, yn ei barn hi, mae'r gwaith yn therapiwtig.
"Y penderfyniad gorau rwyf erioed wedi'i wneud yw dod yn blastrwr."

Gwybodaeth am fywyd yn y diwydiant adeiladu
Bywyd fel plastrwr i'w weld yn dda? Ymchwilia i'r rôl ymhellach, a darganfydda sut i ymuno â'r diwydiant.
More About Billie-Jo
Nid oedd gan Billie-Jo ddiddordeb erioed mewn mynd i'r brifysgol. Nid yw'n hoffi bod oddi cartref am gyfnodau hir ac nid oedd am fyw oddi wrth ei theulu.
Ar ôl ennill ei chymwysterau TGAU, dechreuodd hyfforddi i ddod yn filfeddyg, ond nid oedd y rôl yn iawn iddi. Am fod ei thad yn blastrwr, rhoddodd gynnig ar weithio iddo ef. Roedd wrth ei bodd, a dyma'r penderfyniad gorau y mae erioed wedi'i wneud.
Gwnaeth brentisiaeth dros ddwy flynedd i ddod yn blastrwr. Un diwrnod, mae am ddechrau ei busnes ei hun, a gallai ennill £40,000 y flwyddyn.
Mae ffitrwydd yn rhan o'r swydd. Pan ddechreuodd, nid oedd yn gallu codi bag o blastr, ond mae'n cario dau fag erbyn hyn.
Yn ei hamser hamdden, mae'n mwynhau marchogaeth. Mae ei swydd yn rhoi'r hyblygrwydd iddi ofalu am ei cheffyl. Weithiau, mae'n marchogaeth am awr yn ystod y diwrnod ac yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl hynny.

Gwybodaeth am fywyd yn y diwydiant adeiladu
Bywyd fel plastrwr i'w weld yn dda? Ymchwilia i'r rôl ymhellach, a darganfydda sut i ymuno â'r diwydiant.
