Mae Grace yn saer maen ar brentisiaeth yn Eglwys Gadeiriol Lincoln. Mae'n hoffi gweithio gyda deunyddiau naturiol a defnyddio'i sgiliau ymarferol i ddiogelu'r adeilad hanesyddol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Saer Maen, Oedran 25

"Rwy'n cadw'r adeilad hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Gwybodaeth am fywyd yn y diwydiant adeiladu
Bywyd fel saer maen i'w weld yn dda? Ymchwilia i'r rôl ymhellach, a darganfydda sut i ymuno â'r diwydiant.
More About Grace
Astudiodd Grace Gymdeithaseg a Hanes Celf yn y brifysgol. Am ei bod am weithio gyda'i dwylo, daeth yn labrwr ar ôl graddio ac ymunodd â'r diwydiant adeiladu wedi hynny fel saer maen ar brentisiaeth.
Fel prentis, mae ganddi fentor sy'n ei haddysgu ac yn edrych ar ei gwaith. Ar y safle, mae fel arfer yn ymuno â pherson arall er mwyn iddynt allu codi maen trwm gyda'i gilydd. Yn y gweithdy, mae mwy o ffocws ar grefft solo.
Hen alwedigaeth yw gwaith saer maen. Mae Grace yn hoffi'r ffaith ei bod yn cysylltu â hanes drwy ei gwaith. Yn aml, mae'n dod o hyd i naddiadau saer o'r Oesoedd Canol ar faen yr Eglwys Gadeiriol – arwyddnodau'r seiri a weithiodd y maen yn wreiddiol – a ffosiliau y tu mewn iddo sydd wedi'u diogelu ers miliynau o flynyddoedd.
Ar wahân i godi'n gynnar, y peth anoddaf am ei swydd yw codi maen drwy'r dydd. Gall bod yn saer maen fod yn anodd yn gorfforol ond rydych yn dod yn gryfach.
Pan nad yw'n gweithio, mae Grace yn mwynhau treulio amser ym myd natur. Mae'n mwynhau heicio ac yn dysgu sut i wneud pethau defnyddiol o goed.

Gwybodaeth am fywyd yn y diwydiant adeiladu
Bywyd fel saer maen i'w weld yn dda? Ymchwilia i'r rôl ymhellach, a darganfydda sut i ymuno â'r diwydiant.