Yn cyflwyno
Mae'n ffynnu, mae'n hwyl ac mae'n brysur
Mae fy musnes i’n adeiladu adeiladau ffrâm bren derw ac yn arbenigo mewn gwaith coed strwythurol. Dw i’n cyflogi oddeutu deg o bobl, yn dibynnu ar raddfa’r tasgau rydyn ni’n gweithio arnyn nhw ar y pryd.
Pan oeddwn i’n blentyn roeddwn i wrth fy modd yn adeiladu setiau offer, megis Meccano a LEGO, ac roeddwn i’n gwybod fy mod i am fod yn saer coed o oedran ifanc. Pan adawes i’r ysgol fe ges i swydd ym Mryste, a sylweddoles i’n fuan mai gwaith ffrâm derw oedd yr hyn roeddwn i am ei wneud. Cymeres i rôl mewn cwmni a oedd yn cynnig hyfforddiant gan aros yno nes i mi ddysgu’r drefn.

" Mae ein cenhedlaeth ni wir yn ymfalchïo yn eu gwaith "
Mae pob diwrnod yn wahanol, ond mae diwrnod arferol i mi yn dechrau oddeutu hanner wedi chwech. Dw i’n codi, mynd â fy nghi am dro, cael coffi cryf ac yna’n mynd i’r iard. Mae’r bechgyn a fi’n cael cyfarfod tîm, yn edrych dros luniadau, ac yna’n bwrw ymlaen â’n tasgau ein hunain, bob un yn gweithio ar ein rhannau unigol ein hunain o’r prosiect.
Ces i fy nenu at fframio derw oherwydd ei fod yn grefft draddodiadol sy’n defnyddio offer llaw, felly mae’n greadigol iawn – rydych chi’n siapio pethau â’ch dwylo a’ch meddwl. Gyda phob prosiect, y rhan dw i bob amser yn ei charu fwyaf yw y gallwch chi sefyll yn ôl gyda’r bobl rydych chi wedi gweithio gyda nhw a gweld beth rydych chi wedi’i wneud. Pan yw prosiect wedi’i orffen, rydyn ni i gyd yn mynd i’r dafarn i ddathlu a hel atgofion am ein gwaith caled.


Mae adeiladu yn ddiwydiant gwych i fod yn rhan ohono. Mae’n ffynnu, mae’n hwyl ac mae’n brysur. Dw i’n cael gwneud yr hyn dw i’n ei garu a gweithio ochr yn ochr â phobl wych, a galla i fynd â fy nghi i’r gwaith. Dw i’n mwynhau gweithio â’r offer a gyrru tryciau. Mae’n berffaith! Mae hefyd yn rhoi bwyd ar y bwrdd. Mae’n golygu y gall fy mhartner aros gartref a gofalu am fy merch. Mae gwneud y swydd hon yn golygu y gall pob un ohonon ni fwynhau bywyd da. Mae’n ffordd o fyw dw i’n ei mwynhau’n fawr, ac mae amser o hyd i chwarae golff ar y penwythnosau.

Dw i ddim yn synnu pan ydw i’n derbyn ymholiadau am gyflogaeth, yn aml gan bobl dros ddeg ar hugain oed. Mae pobl am ailhyfforddi fel saer coed ar hyn o bryd ac ennill y profiad hwnnw. Mae ein cenhedlaeth ni yn ymfalchïo yn eu gwaith – mae pobl am wneud y gwaith gorau y gallan nhw ei wneud a’i rannu ag eraill.
Byddwn i’n dweud wrth rywun sydd am ddod i mewn i’r diwydiant am ganfod yr hyfforddiant gorau y gallwch chi, dysgwch gymaint ag y gallwch chi ei ddysgu, ac fe ddaw’r arian a’r hapusrwydd.Â’r swydd hon bydd gennych rywbeth y gallwch chi fynd ag ef gyda chi, hyd yn oed o amgylch y byd.
Wedi'i gyllido trwy fuddsoddi'r lefi CITB.
Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan. Gallwch ddysgu rhagor am gwcis yn ein Polisi Preifatrwydd.